Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 26 Mai 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12304


3

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad Prif Weinidog Cymru i'w Mawrhydi ynglŷn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol

Dechreuodd yr eitem am 14.41

NDM7688 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.43

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.10 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnewyddu a diwygio: cefnogi lles a chynnydd dysgwyr

Dechreuodd yr eitem am 15.22

</AI5>

<AI6>

5       Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021

Dechreuodd yr eitem am 15.59

NDM7694 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 6-10 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.

</AI7>

<AI8>

6       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM7690 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

7       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM7689 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ebrill 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

8       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM7691 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI10>

<AI11>

9       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM7692 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI11>

<AI12>

10    Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM7693 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI12>

<AI13>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 16.37

NDM7698 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.10(ii) a Rheol Sefydlog 12.20(i), er mwyn caniatáu i NDM7696 a NDM7697 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mai 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI13>

<AI14>

11    Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

Dechreuodd yr eitem am 16.37

NDM7697 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:

Yn sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI14>

<AI15>

12    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T mewn perthynas â'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

Dechreuodd yr eitem am 16.38

NDM7696 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI15>

<AI16>

13    Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

Dechreuodd yr eitem am 16.38

NDM7695 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Jack Sargeant (Llafur Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhys ab Owen (Plaid Cymru) fel aelodau o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

2. Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI16>

<AI17>

14    Cyfnod pleidleisio

Ni chafwyd cyfnod pleidleisio.

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 16.38

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>